sut mae'n gweithio

y broses

y broses

Rydych chi’n barod i ddechrau’r broses faethu, ond faint o amser mae’n ei gymryd yng Nghonwy, pa waith papur sydd ei angen, a beth yw’r camau y mae angen i chi eu cymryd?

y cam cyntaf

Y cam cyntaf yn y broses yw codi’r ffôn, neu anfon e-bost, i wneud ymholiad cychwynnol. Ar ôl i chi wneud hyn, mae eich taith wedi cychwyn.

Byddwn yn cymryd eich manylion hanfodol er mwyn i ni allu dechrau deall eich sefyllfa. Byddwch chi’n cael pecyn gwybodaeth, sy’n egluro sut beth yw bod yn ofalwr maeth.

cam 2 – yr ymweliad cartref

Ar ôl i chi gysylltu â ni am y tro cyntaf, byddwn yn dechrau dod i’ch adnabod chi. Bydd rhywfaint o waith papur, yna byddwn yn ymweld â chi gartref neu ar-lein drwy alwad fideo.

Mae’n bwysig ein bod ni’n ffurfio perthynas â chi o’r cychwyn cyntaf, er mwyn i ni allu deall pwy sydd bwysicaf i chi a dysgu am eich cartref.

cam 3 – yr hyfforddiant

Rydyn ni’n cynnal cwrs hyfforddi dros dri diwrnod er mwyn i chi gael y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn ofalwr maeth. Byddwch yn cael cyfle i gwrdd ag aelodau o dîm Maethu Cymru Conwy, yn ogystal â gofalwyr eraill yn y gymuned, mewn amgylchedd hamddenol.

“fe wnaethon ni gwrdd â llawer o bobl wych rydyn ni bellach yn eu hystyried yn ffrindiau ac rydyn ni’n helpu ac yn cefnogi ein gilydd pan fydd angen hynny arnon ni” – Gofalwr Maeth, Conwy

cam 4 – yr asesiad

Yn ystod y cam asesu, byddwch chi’n dysgu beth fydd maethu yn ei olygu i chi. Mae’n hollbwysig cofio – dim prawf yw’r asesiad hwn; mae’n ein galluogi i ddeall eich teulu ac yn gyfle i chi a’ch teulu ofyn cwestiynau.

Gweithwyr cymdeithasol sy’n cynnal yr asesiadau, gan ystyried cryfderau a gwendidau teulu.

cam 5 – y panel

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol ac aelodau annibynnol yn aelodau o banel Maethu Cymru. Maen nhw’n gwerthuso eich asesiad o bob ochr ac yn edrych ar bob gofalwr maeth yn unigol.

Bydd y panel yn cyflwyno argymhellion ynghylch beth allai weithio orau ar gyfer eich sefyllfa bresennol.

Adult helping teenager with homework

cam 6 – y cytundeb gofal maeth

Mae’r cytundeb gofal maeth yn nodi beth mae bod yn ofalwr maeth yn ei olygu. Mae’r cytundeb ysgrifenedig hwn yn nodi cyfrifoldebau o ddydd i ddydd, ynghyd â’r gefnogaeth a’r arweiniad ehangach y byddwch yn eu darparu – yn ogystal â sut byddwn yn eich cefnogi ar eich taith.

Family walking on the Orme

ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf?

cysylltwch