pam maethu gyda ni?

pam ein dewis ni?

pam ein dewis ni?

Mae Maethu Cymru Conwy yn rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Mae ein tîm wedi ymrwymo i weithio gyda gofalwyr maeth i greu dyfodol gwell i blant yn y gymuned.

Rydyn ni’n rhoi pobl wrth galon pob penderfyniad rydyn ni’n ei wneud.

ein cenhadaeth

Mae yna blant o bob oed sydd angen lle sefydlog a diogel i’w alw’n gartref yng Nghonwy, a’n cenhadaeth ni yw gwneud i hynny ddigwydd. Er mwyn gwneud byd o wahaniaeth.

Adult and young girl holding hands

ein cefnogaeth

Rydyn ni’n darparu cefnogaeth leol i chi a’r plant yn ein gofal, gan gynnig ein harbenigedd, ein cyngor a’n hyfforddiant hanfodol, bob awr o’r dydd. Dydych chi byth ar eich pen eich hun gyda Maethu Cymru Conwy – rydyn ni bob amser yn gefn i chi.

ein ffyrdd o weithio

Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd bob amser. Mae Maethu Cymru Conwy yn canolbwyntio ar gysylltiad a chydweithio er mwyn newid bywydau plant yn y gymuned er gwell.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod pob gofalwr maeth yn unigryw, felly rydyn ni’n gweithio’n agos gyda chi i ddefnyddio eich cryfderau ac i annog eich datblygiad.

Adult with teenage boy in kitchen making food together

eich dewis

Rydyn ni’n sylweddoli pa mor bwysig yw gwneud y dewis iawn i’ch teulu, felly rydyn ni yma i’ch helpu chi i wneud y penderfyniad gorau i chi.

Dewiswch Maethu Cymru a gweithio gyda phobl sydd wir yn dymuno gwneud gwahaniaeth. Mae ein tîm yn unigolion ymroddedig sydd wedi’u hyfforddi, sy’n byw yng Nghonwy ac sy’n gwerthfawrogi realiti bywyd yno.

Cysylltwch â ni heddiw i gymryd y cam cyntaf yn eich taith faethu.

 

Family walking on the Orme

cysylltwch heddiw