mathau o faethu
Mae maethu yn wahanol i bob teulu a phlentyn. Mae'n gallu golygu nifer o bethau – o ymweliadau byr rheolaidd i rywbeth mwy parhaol. Dysgwch mwy am y gwahanol fathau o faethu a sut gallai weithio i chi.
mathau o faethuffyrdd o faethu
Mae angen rhywun y gallan nhw ddibynnu arno bob amser, dim ots beth, ar rai plant yng Nghonwy. Gallech chi fod y person hwnnw, beth bynnag fo’ch rhywedd, eich perthynas, eich ethnigrwydd neu eich cyfeiriadedd rhywiol.
Mae gofalwyr maeth yn dod o bob math o wahanol gefndiroedd. Mae Maethu Cymru Conwy yn falch o ddathlu amrywiaeth.
Daliwch ati i ddarllen i weld a yw maethu i chi.
Fel gofalwr maeth, gallwch wneud byd o wahaniaeth i fywyd rhywun. Boed hynny’n ofal maeth dros nos neu’n drefniant tymor hir, mae maethu’n gallu golygu pethau gwahanol iawn. Mae angen gwahanol bobl ar gyfer gofal maeth hefyd – gofalwyr maeth o gefndiroedd amrywiol gydag amrywiaeth o brofiadau.
O ran pwy sy’n gallu maethu, gofynnwch i chi’ch hun: allwch chi wneud gwahaniaeth, ac ydych chi eisiau gwneud hynny?
Os ydych chi’n gweithio’n llawn amser, dydy hynny ddim yn golygu na allwch chi faethu. Fodd bynnag, efallai y bydd angen meddwl yn fwy gofalus am faethu ochr yn ochr â swydd amser llawn.
Er enghraifft, gallech faethu’n rhan-amser drwy gynnig seibiant byr. Mae gofyn cael ymrwymiad a dull cydweithredol ar gyfer maethu; byddwch chi’n gweithio’n agos gyda gweithwyr cymdeithasol, athrawon a therapyddion. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi gyda phob cam ac i’ch helpu i ddod o hyd i ddewis sy’n gweithio i chi.
Does a wnelo p’un ai ydych chi’n rhentu neu’n talu morgais ddim â maethu. Y peth pwysicaf yw eich bod yn teimlo’n ddiogel lle rydych chi’n byw, er mwyn i chi allu cynnig sicrwydd i blentyn.
Gallech chi ddefnyddio eich ystafell sbâr i greu man diogel a phreifat y mae ei angen ar blentyn – rhywle lle mae’n teimlo ei fod yn perthyn.
Wrth gwrs. Does dim rhaid i’ch teulu roi’r gorau i dyfu. Bydd maethu’n ychwanegu at eich teulu ac yn dod â mwy o blant i’ch cartref i chi eu caru a gofalu amdanyn nhw.
Mae maethu brodyr a chwiorydd yn gallu bod yn fuddiol iawn i blant, gan eu helpu i wneud ffrindiau mewn lleoliad cyfarwydd.
Dydy eich oedran ddim yn eich gwneud yn llai addas i faethu. Byddwn ni’n darparu’r hyfforddiant a’r gefnogaeth leol sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich taith faethu. Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddechrau gwneud gwahaniaeth.
Fel person ifanc, efallai nad oes gennych chi lawer o brofiad o fywyd, ond peidiwch â gadael i hynny eich atal. Byddwn yn eich tywys drwy’r daith faethu ac yn sicrhau eich bod yn gallu diwallu anghenion y plant yn ein gofal yn llawn.
Dydy bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil ddim yn un o’r gofynion ar gyfer maethu. Yr hyn sy’n bwysig yw a allwch chi gynnig sefydlogrwydd i blentyn mewn cartref diogel a chariadus. Bydd eich tîm Maethu Cymru Conwy lleol yn gweithio gyda chi i benderfynu ai dyma’r amser iawn i chi fod yn ofalwr maeth, beth bynnag yw eich statws priodasol.
Dydy eich rhywedd ddim yn cael ei ystyried. Y ffactorau pwysig yw eich personoliaeth, eich gallu a’ch sgiliau.
Gallwch. Os ydych chi wedi ymroi i ddarparu cartref diogel a sefydlog i blentyn, dyna’r cyfan sy’n bwysig.
Fydd cael ci neu gath ddim yn eich atal rhag maethu. Yn wir, gall anifeiliaid anwes fod yn rhywbeth cadarnhaol iawn i lawer o bobl ifanc! Maen nhw’n gallu ychwanegu lefel arall o gymorth i blentyn maeth a bod yn fantais go iawn mewn teulu maeth.
Bydd angen i ni wneud yn siŵr bod eich ci neu’ch cath yn ddiogel i fod o gwmpas plant, felly byddwn yn eu cynnwys yn eich asesiad am y rheswm hwn.
Gall y polisïau sydd ar waith ynghylch ysmygu a gofal maeth amrywio yn ôl oedran y plentyn. Os ydych chi eisiau rhoi’r gorau i ysmygu, gallwn gynnig yr help a’r gefnogaeth iawn i chi.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddod o hyd i’r gyfatebiaeth addas rhwng eich teulu chi â’r plant yn ein gofal.
Dydy bod yn ddi-waith ddim yn golygu na allwch chi faethu. Byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu ai dyma’r amser iawn i chi ddod yn ofalwr maeth.
Gallwch. Cyn belled â bod gennych chi ystafell wely sbâr mewn amgylchedd sefydlog, does dim ots a yw eich tŷ yn fawr neu’n fach. Os gallwch chi gynnig lle diogel gyda phreifatrwydd i blentyn, gallech chi faethu.