ffyrdd o faethu
mathau o faethu
mathau o ofal maeth
Mae gofal maeth yn gallu golygu unrhyw beth o aros dros nos i rywbeth mwy hirdymor. Er bod yr amser yn amrywio o un teulu i’r llall, mae un elfen bob tro yr un fath: mae pob arhosiad yn darparu lle diogel.
Mae gofal maeth yn gallu golygu unrhyw beth o aros dros nos i aros am flwyddyn – gall hyd yr amser amrywio! Fodd bynnag, mae gan bob math o ofal maeth yr un pwrpas: darparu lle diogel i blentyn.
Does dim dau deulu maeth yr un fath. Gall pobl o bob cefndir ddod yn ofalwyr maeth a chynnig amgylchedd diogel a sefydlog i blentyn. Rhywle y gall y plentyn ei alw’n gartref.
gofal maeth tymor byr

Mae gofal maeth tymor byr yn darparu cartref dros dro i blentyn nes bydd yn gallu dychwelyd i gartref y teulu, neu ble bynnag sydd orau iddo ef/hi nesaf. Mae’r math hwn o ofal maeth yn gallu bod yn unrhyw beth o ddiwrnod i funy at ddau flwyddyn, a phopeth yn y canol.

Byddwch yno tra byddwn ni’n gweithio i sicrhau gofal maeth tymor hir i berson ifanc, sy’n cael ei alw’n ‘sefydlogrwydd’. Byddwch yn cefnogi’r plentyn gyhyd ag y bydd arno eich angen chi ac yn ei helpu i symud ymlaen at ei deulu nesaf.
Gall arhosiad byr gael effaith enfawr ar blentyn. Mae pob cartref, ni waeth pa mor fyr-dymor, yn chwarae rhan yn y gwaith o greu dyfodol gwell.
gofal maeth tymor hir

Mae gofal maeth tymor hir yn darparu teulu newydd i blant sydd ddim yn gallu aros gartref.

Drwy baru’n ofalus, mae’r math hwn o ofal maeth yn lleoli’r plentyn iawn gyda’r gofalwr iawn nes bydd wedi tyfu’n oedolyn. Mae’n darparu sicrwydd a sefydlogrwydd tymor hir i blentyn – cartref am byth.
mathau arbenigol o ofal maeth
Gall fod angen mathau arbenigol o ofal maeth ar gyfer gofal maeth tymor byr a thymor hir. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

seibiant byr
Mae seibiant byr yn galluogi plant i gael rhywfaint o amser oddi wrth eu teulu. Cyfle i ddod atyn nhw’u hunain. Mae seibiant byr yn cael ei alw’n ‘ofal cymorth’ weithiau, a gall ddigwydd yn ystod y dydd, dros nos neu ar benwythnosau.
Maen nhw’n cynnig profiadau a chyfleoedd gwahanol i blant o fewn rhwydwaith teulu estynedig newydd. Mae seibiant byr rheolaidd yn gallu cael effaith wirioneddol ar fywyd plentyn.
Fel Gofalwr Maeth gallwch gynnig arhosiad byr i blant anabl a phobl ifanc sy’n dal i fyw gyda’u rhieni neu eu teuluoedd. Darllenwch fwy: seibiant byr

rhiant a phlentyn
Mae maethu rhiant a phlentyn ar gyfer rhieni sydd angen cefnogaeth ac arweiniad ychwanegol nes byddan nhw’n gallu gofalu am eu plentyn ar eu pen eu hunain.
Bydd y math hwn o faethu arbenigol yn eich galluogi chi, fel gofalwr maeth, i ddefnyddio eich profiadau magu plant eich hun. Byddwch yn cefnogi rhiant agored i niwed a’i blentyn yn eich cartref wrth i’r rhiant fagu’r hyder a datblygu’r sgiliau angenrheidiol.
Darllenwch fwy: Maethu rhiant a phlentyn

ffoaduriaid ifanc
Mae ffoaduriaid ifanc yn cyrraedd y DU ar eu pen eu hunain neu wedi’u gwahanu oddi wrth eu teulu yn ystod y daith – yn chwilio am ddiogelwch a dechrau newydd. Mae mwy na 100 o’r ffoaduriaid ifanc hyn yn cyrraedd Cymru bob blwyddyn.
Rydym angen teuluoedd yng Nghonwy a all gynnig cymorth, sefydlogrwydd ac arweiniad i ffoaduriaid ifanc wrth iddynt ailddarganfod eu hannibyniaeth mewn gwlad newydd.