pam maethu gyda ni?

cefnogaeth a manteision

Mae pob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i’r Ymrwymiad Cenedlaethol, sef pecyn hyfforddiant, cefnogaeth a manteision y mae ein holl ofalwyr maeth yn ei gael. Fel gofalwr maeth Maethu Cymru Conwy, byddwch chi’n elwa o’r canlynol:

rhyddhad treth y cyngor o hyd at 100%

I ddiolch i chi am faethu gyda Chonwy, rydym yn cynnig rhyddhad treth y cyngor yn ôl disgresiwn o hyd at 100% ar gyfer ein gofalwyr maeth.

aelodaeth FFIT Conwy am ddim i’r aelwyd

Fel gofalwr maeth Conwy, gall yr aelwyd gyfan fwynhau aelodaeth FFIT Conwy – yn rhad ac am ddim!

Mae aelodaeth Ffit Conwy yn cynnig gwerth anhygoel am arian a’r dewis gorau o ran ffitrwydd. P’un ai oes arnoch chi eisiau cymryd rhan yn un o’n dosbarthiadau ffitrwydd, gweithio ar eich amseroedd nofio neu chwysu chwartiau yn y gampfa, gall Ffit Conwy gynnig y cwbl i chi.

Mae’r aelodaeth yn gadael i chi ddefnyddio pob un o’r 10 canolfan sydd gennym ni yn Sir Conwy, 7 campfa, 4 pwll nofio a dros 200 o wersi ymarfer corff yr wythnos, dan arweiniad hyfforddwr a dros y we.  Mae pob canolfan yn cynnig rhywbeth gwahanol ac mae’r aelodaeth hon yn gadael i chi fanteisio ar y cyfleusterau a’r gweithgareddau gwych sydd gan Gonwy i’w cynnig.

cliciwch yma i ddarganfod mwy

Adult and boy walking down street

tocyn parcio ar gyfer ardaloedd lleol ym Mwrdeistref Sirol Conwy

Oes gennych chi hoff le i ymweld ag o yng Nghonwy? Fel gofalwr maeth i Gonwy, fe gewch ddewis tocyn parcio am ddim ar gyfer dewis o ardal leol.

gostyngiadau mewn bwytai, siopau, ac atyniadau lleol

Fel gofalwr maeth i Gonwy, fe gewch aelodaeth am ddim i’r Rhwydwaith Maethu. Mae’r aelodaeth yn rhoi mynediad i gefnogaeth, digwyddiadau a chyrsiau i hybu eich dysgu a datblygu.

Rydym hefyd yn rhoi aelodaeth CADW am ddim i ofalwyr maeth. Mae gofalwyr maeth hefyd yn gallu cael cerdyn Blue Light, rydym yn eich ad-dalu am hwn, ac rydych hefyd yn cael cerdyn Max am ddim. Mae hwn rhoi mynediad i atyniadau lleol, a gostyngiadau mewn bwytai a siopau.

5 diwrnod ychwanegol o absenoldeb arbennig i weithwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Ydych chi’n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Cymru? Fel gofalwr maeth, a gweithiwr i’r awdurdod lleol, mae gennych hawl i 5 diwrnod ychwanegol o absenoldeb arbennig fel rhan o’n polisi cefnogi maethu.

gdga

parhad o daliad uwch

Oeddech chi’n gwybod ei bod yn annhebygol y byddwch yn mynd am gyfnodau hir heb blentyn yn eich gofal? Os ydych yn ofalwr maeth llawn amser heb blant yn byw gyda chi, rydym yn parhau i dalu’r taliad uwch (ffi) i chi. Nid ydych yn cael eich cosbi am fod yn wag, a gallwch ddefnyddio’r amser hwn i flaenoriaethu eich dysgu a datblygu.

3 books on a table

dysgu a datblygu

Mae ein pecyn cymorth sydd wedi cael ei ystyried, ei brofi a’i rannu yn un o’r manteision y mae pob aelod o Maethu Cymru yn elwa ohoni; mae dysgu a thyfu yn rhannau allweddol o’r hyn rydyn ni’n ei gynnig.

Rydyn ni’n darparu’r hyfforddiant proffesiynol a’r gwaith paratoi sydd eu hangen arnoch i ddatblygu’n ofalwr maeth hyderus a medrus ac i allu diwallu anghenion y plant yn eich gofal.

Fel gofalwr maeth Maethu Cymru, byddwch yn cael cofnod dysgu personol unigol a chynllun datblygu i gofnodi’r cynnydd rydych chi’n ei wneud a rhoi cynlluniau gweithredu ar waith ar gyfer y dyfodol.

our clinical psychologist Dr Stefi

cefnogaeth barhaus gan ein seicolegydd clinigol

Dewch i adnabod Dr Stefi Pethica, ein seicolegydd clinigol mewnol.

Mae Dr Stefi Pethica yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol yn y Tîm Maethu fel rhan o bartneriaeth a ddatblygwyd rhwng Awdurdod Lleol Conwy a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Conwy.

Mae Dr Stefi yn cefnogi gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr maeth i ddeall anghenion y plant yn eu gofal, ac yn nodi ymyriadau priodol yn seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi plant a gofalwyr. Mae Dr Stefi yn cysylltu gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, Gwasanaethau Niwroddatblygiadol a Gwasanaethau Anableddau Dysgu i sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc yn cael eu diwallu gan y tîm cywir ar yr adeg gywir.

Mae Dr Stefi yn cefnogi’r cynnydd o ymyriadau therapiwtig a hyfforddiant sydd ar gael i Ofalwyr Maeth, yn cynnwys Arweiniad Rhyngweithiol Fideo a hyfforddiant mewn Sgiliau Therapi Ymddygiad Dialectig.

Dad and baby

0-5 grŵp babanod a phlant bach

Yn ddiweddar rydym wedi dechrau grŵp cymorth misol ar gyfer gofalwyr maeth sy’n gofalu am fabanod a phlant bach 0-5 oed. Mae’r grŵp cymorth hwn yn canolbwyntio ar anghenion ein gofalwyr maeth sy’n gofalu am blant ifanc, gallwn ymdrin â phynciau fel maeth, chwarae, amser teulu, a phontio.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y grŵp babanod a phlant bach, e-bostiwch [email protected]

a group photo of foster carers and staff after a walk together

cefnogaeth

Gyda Maethu Cymru, gallwch bob amser ddibynnu ar rywun i’ch cefnogi a’ch annog ar bob cam o’ch taith.  Rydyn ni ar gael bob awr o’r dydd.

Bydd gennych weithiwr cymdeithasol profiadol, proffesiynol wrth law i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith cyfan.

the fostering team holding up signs that spell thank you

un tîm

Bydd gennych hefyd fynediad at amrywiaeth o grwpiau cefnogi lle cewch ddod i adnabod gofalwyr maeth eraill. Bydd hyn yn gyfle i chi siarad, gwrando a rhannu eich straeon. Mae cefnogaeth gan gymheiriaid ar gael gan dîm Maethu Cymru Conwy a gall helpu i wella eich lles yn ein boreau coffi, Rydym yn cynnal Diwrnod Gwerthfawrogi bob blwyddyn, i ddiolch i’n gofalwyr maes ac i ddangos ein gwerthfawrogiad am eu hymrwymiad a’u cefnogaeth i’n plant. Yn ogystal â hyn, rydym yn parhau i gefnogi ein cymuned drwy fynychu digwyddiadau, a noddi digwyddiadau lleol.

Mae cefnogaeth broffesiynol ar gael yn rhwydd hefyd. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda’n gofalwyr maeth, sy’n golygu ein bod ni bob amser ar gael.

a group photo of foster carers and staff at our appreciation day

y gymuned faethu

Mae cadw mewn cysylltiad yn rhywbeth rydyn ni’n canolbwyntio arno. Bydd y gymuned faethu yn dod â chi’n nes at deuluoedd maeth eraill, gan eich helpu i wneud ffrindiau newydd, i gael profiadau newydd ac i greu atgofion newydd.

Pan fyddwch chi’n ymuno â Maethu Cymru, byddwn yn talu i chi fod yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu (TFN), er mwyn i chi gael mynediad at gefnogaeth annibynnol, cyngor preifat, arweiniad a manteision eraill.

Drwy ddod yn rhan o dîm Maethu Cymru, byddwch chi’n cysylltu â’r rheini sy’n gyfrifol am bob plentyn mewn gofal maeth yng Nghymru, a byddwch chi’n ein helpu ni i gadw plant yn eu cymuned leol.

llunio’r dyfodol

Mae o ble rydyn ni wedi dod yn bwysig, ond rydyn ni’n canolbwyntio ar lunio’r dyfodol i blant.  Mae creu bywyd gwell i blentyn wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud.

“Fel gofalwr maeth Maethu Cymru, byddwch yn cael eich annog i leisio eich barn. Bydd eich barn yn dylanwadu ar sut rydyn ni’n symud ymlaen gyda sut rydyn ni’n gweithredu yng Nghonwy, ond bydd pobl yn gwrando ar eich barn ledled y wlad hefyd.  Bydd cyfleoedd i chi ymgynghori a dylanwadu ar ddyfodol maethu yng Nghymru.” – Maethu Cymru

Family walking on the Orme

cymryd y cam cyntaf

cysylltu â’ch tîm maethu cymru lleol