sut rydyn ni’n eich cefnogi chi

cymorth a lwfans yng nghonwy

sut rydyn ni’n eich cefnogi chi yng nghonwy

Rydym yma i’ch cefnogi chi. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gwneud popeth y gallwn i’ch helpu chi i ddarparu cartref sefydlog a chariadus i blentyn maeth.

Hyd yn oed cyn i blentyn gyrraedd, mae Maethu Cymru Conwy yn darparu arweiniad manwl a hyfforddiant i sicrhau fod maethu yn addas i chi a’ch teulu.  Ond nid yw’r gefnogaeth yn gorffen gyda hynny.

Unwaith rydych yn maethu plentyn, rydym yn cynnig:

  • arweiniad parhaus gan weithiwr cymdeithasol ymroddedig a gweithwyr proffesiynol eraill yng Nghonwy
  • lwfans maethu yn ogystal â’n lwfans uwch i dalu am gostau byw hanfodol
  • cymuned o deuluoedd maeth lleol a all rannu profiadau
  • cyfeillgarwch a digwyddiadau cymdeithasol
  • hyd at 100% o ostyngiad ar eich treth cyngor

Mae’n bwysig i ystyried yr holl fanteision lleol er mwyn cael gwell dealltwriaeth cyn cymharu taliadau gofalwyr maeth.

Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y gefnogaeth o ran maethu a’r gwobrau rydym yn eu cynnig.

 

Foster carers and staff at Bodnant Gardens

lwfans gofal maeth

ydy gofalwyr maeth yn cael eu talu?

Ydi, mae gofalwyr maeth yn derbyn tâl i dalu am gostau gofalu am blentyn.  Bydd y swm hwn yn amrywio yn seiliedig ar nifer o ffactorau, gan gynnwys:

  • faint o blant rydych yn eu maethu,
  • beth yw oed y plant
  • a’r math o faethu rydych yn ei wneud.

Fodd bynnag, nid yw bod yn ofalwr maeth yn swydd gonfensiynol. Nid yw’n ffitio mewn bocs. Mae’n swydd 24-7 sydd wedi ei lleoli yn y cartref a lle mae angen sgiliau a byddwn yn eich cefnogi yn ariannol i wneud y gwaith.

Yn Maethu Cymru rydym eisiau i blant gael popeth sydd ei angen arnynt i ffynnu, felly rydym wedi rhannu’r taliadau yn 3 rhan; y lwfans plant wythnosol + taliad uwch + taliadau ychwanegol.

lwfans y plentyn

Yng Nghonwy mae lwfans y plentyn yn £204-£255 yr wythnos, yn dibynnu ar oed y plentyn. Rhoddir y rhan hon o’r taliad i’r diben unigol o brynu beth bynnag y mae’r plentyn ei angen fel bwyd, dillad neu nwyddau ymolchi yn ogystal â thalu am filiau ychwanegol y cartref.

taliad uwch

Fe wneir taliadau ffioedd ar ben lwfansau i gydnabod amser gofalwr maeth, eu sgiliau a’u profiad. Yng Nghonwy y ffi uwch yw £250.08. Mae nifer o’n gofalwyr sy’n dewis maethu yn llawn amser hefyd yn dewis rhoi’r gorau i’w gwaith. Os ydych chi’n ofalwr maeth llawn amser ac nad oes gennych chi blentyn ar hyn o bryd, mae’r taliad hwn yn barhaus. Bydd hyn yn golygu y bydd gennych chi incwm bob amser. Mae ffioedd yn cael eu talu ar ben lwfansau i gydnabod amser, sgiliau a phrofiad gofalwr maeth. Yng Ngheredigion, mae’r elfen ffioedd yn amrywio o £45 i £120 yn dibynnu pa mor hir rydych chi wedi bod yn ofalwr maeth, pa brofiad sydd gennych a pha fath o faethu rydych chi’n ei wneud.

taliadau ychwanegol

Yng Nghonwy rydym hefyd yn darparu taliadau ychwanegol ar gyfer pen-blwydd y plentyn, gwyliau, dyddiau gŵyl a threuliau teithio a hefyd rydym yn helpu gyda grant argyfwng os oes angen a byddwn yn eich cefnogi gyda phrynu hanfodion fel hanfodion babanod a dodrefn i’r ystafell wely.

ein hymrwymiad i chi

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cofrestru i’r hyn rydym yn ei alw’n ‘Ymrwymiad Cenedlaethol’. Mae hwn yn becyn o hyfforddiant, cefnogaeth a gwobrau y cytunwyd arnynt a bydd pob un o’n gofalwyr maeth yng Nghymru yn eu mwynhau.

foster wales conwy team

tîm maethu lleol

Nid ydych ar eich pen eich hun. Mae gennych chi dîm i’ch cefnogi a’ch annog chi, bob cam o’r ffordd.

Mae cefnogaeth ar gael unrhyw adeg – nid dim ond yn ystod oriau swyddfa. Rydym yn ymroddedig i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth ac mae hynny’n golygu ein bod yn darparu cefnogaeth 24/7. Beth bynnag rydych ei angen, pryd bynnag rydych ei angen. Fe fyddwn ni yno.

Supervising social worker and foster carer

gweithiwr cymdeithasol maethu ymroddedig

Bydd gennych chi weithwyr cymdeithasol proffesiynol profiadol wrth law, gydag aelod o’r tîm maethu wedi ei ddynodi i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith.

Mae eich tîm Maethu Cymru yn rhan o’r awdurdod lleol, ac yn gweithio ochr yn ochr â gweithiwr cymdeithasol y plentyn. Mae hyn yn golygu bod ganddynt hawl i wybodaeth ynglŷn â’r plentyn ac adrannau eraill y gwasanaethau cymdeithasol a chysylltiadau gwaith agosach gyda gweithwyr cymdeithasol y plant.

foster carers at cafe

cymorth cyfoedion

Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd wedi eu cynllunio i ddod â chi yn nes at deuluoedd maeth eraill fel boreau coffi, teithiau cerdded lles, digwyddiadau tymhorol, diwrnod gwerthfawrogi a diwrnod gwasanaeth i roi profiadau newydd i chi, cyfeillgarwch newydd ac atgofion newydd. Mae ein gofalwyr maeth hefyd yn cynnal fforwm teulu sy’n cynnal digwyddiadau rheolaidd i deuluoedd maeth. Os hoffech siarad ag un o’n gofalwyr maeth am faethu, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at [email protected] ac fe allwn drefnu ‘paned gyda gofalwr’ i chi.

foster carers sat around a table talking

cyfleoedd dysgu

Mae ein fframwaith dysgu a datblygu wedi ei brofi a’i ddatblygu gyda gofalwyr maeth ac mae’n gyson ar hyd a lled Cymru. Mae cyrsiau hyfforddi lleol yn ffordd wych o gyfarfod gofalwyr maeth eraill ac rydym yn cynnig adnoddau eraill a ffyrdd o ddysgu hefyd.

Adult and young girl baking together in kitchen

mwy o gwestiynau am gymorth ariannol?

Byddwn yn rhannu ac yn esbonio'r holl gymorth y gallwch ei gael. I gael dadansoddiad llawn o'r lwfansau maethu lleol a'r cymorth ariannol yr ydym yn ei gynnig, gofynnwch am becyn gwybodaeth.

gofyn am becyn gwybodaeth

cymorth arall a gwobrau

Allowances icon

hyd at 100% o ostyngiad ar dreth y cyngor

Bydd pob gofalwr maeth yng Nghonwy yn cael gostyngiad ar eu treth cyngor. Os ydych yn maethu yn llawn amser bydd gennych hawl i 100% o ostyngiad ar eich treth cyngor fel diolch i chi gennym ni.

Icon of tickets/passes

pàs hamdden

Mynediad rhad ac am ddim i’r teulu cyfan ym mhob un o Ganolfannau Hamdden FFit Conwy.

Car icon

tocynnau maes parcio

Trwyddedau maes parcio ar gyfer pob un o feysydd parcio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Allowances icon

taliad uwch

Dim plentyn ar hyn o bryd ond yn ofalwr maeth llawn amser? Peidiwch â phoeni, mae ein taliadau uwch yn barhaus.

Coffee mug icon

yn deall meathu

5 diwrnod ychwanegol o absenoldeb arbennig i’r holl weithwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Hefyd mae gennym ni nifer o gyflogwyr sy’n deall maethu yng Nghonwy, cysylltwch i weld a yw eich busnes chi yn deall maethu!

Icon of tickets/passes

gostyngiadau ar ddigwyddiadau, aelodaeth a mwy

Mae ein gofalwyr maeth yn derbyn aelodaeth o’r canlynol yn rhad ac am ddim: CADW, y Rhwydwaith Maethu, New Family Social, y Cerdyn Blue Light.

Mae ein gofalwyr maeth hefyd yn cael gostyngiadau i’r lleoedd canlynol: Zip World, y Sŵ Fynydd Gymreig, Sŵ Môr Môn, a nifer o ostyngiadau gyda cherdyn ‘MAX’ rhad ac am ddim. Rydym yn cynnal digwyddiadau rhad ac am ddim rheolaidd yn Lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.