blog

“roedd hyn i fod erioed”: stori faethu Hannah a Betty

Dechreuodd awydd Hannah i faethu pan oedd hi’n 16 oed, yn sgil trobwynt annisgwyl yn ei bywyd ar ôl i’w mam fynd yn sâl. Flynyddoedd yn ddiweddarach, a hithau yn y Brifysgol, roedd hi’n dal yn angerddol iawn am faethu. Roedd maethu, fodd bynnag, yn rhan fawr o fagwraeth Betty – roedd ei rhieni a’i neiniau a theidiau yn maethu, a bu i hynny greu argraff fawr arni.

Ar ôl iddynt gyfarfod, roedd maethu yn freuddwyd gan y ddwy. Roedd yn jôc gan Betty hyd yn oed fod maethu yn amod ar y berthynas! Ar ôl ymchwilio i asiantaethau, fe ddaethant ar draws Maethu Cymru drwy hysbyseb ar gylchfan, ac roeddent o’r farn bod maethu gydag awdurdod lleol yn cyd-fynd â’u gwerthoedd. 

bywyd fel gofalwyr maeth ifanc

Fe wnaethant ddechrau’r broses ychydig cyn i Betty droi’n 21 oed, gan gwblhau’r cwrs ‘Sgiliau i Faethu’ a chael eu paru â’u gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu “anhygoel”, sef Sam.

Cyn mynd o flaen y panel, cawsant alwad ffôn ynghylch plentyn gydag anghenion meddygol cymhleth. Nid dyna’r oeddent wedi’i fwriadu – “ond roedd rhywbeth yn teimlo’n iawn”. Ar ôl iddynt gyfarfod â gweithiwr cymdeithasol y plentyn a chwblhau hyfforddiant arbenigol yn yr ysbyty lleol, daeth Cadie* i fyw hefo nhw. 

O’r foment honno, fe newidiodd popeth. Yn fuan iawn, daeth yr hyn oedd i fod am y tymor byr yn ffordd newydd o fyw. Erbyn hyn, ni allant ddychmygu bywyd heb Cadie. 

Yma, mae Hannah a Betty yn rhannu eu stori.

*Mae enw’r plentyn wedi cael ei newid i ddiogelu ei hunaniaeth

ei chroesawu i’n bywydau

Hannah: Roedden ni’n bwriadu maethu am seibiannau byr yn unig gan ein bod ni’n dwy yn gweithio, ond ar ôl darllen amdani, fe wnaethon ni eistedd i lawr a chytuno – roedd hyn i fod.  Roedd hi’n swnio’n berffaith ar gyfer ein teulu. Ar ôl tua mis, dw i’n cofio troi at Betty a gofyn, “Beth sydd newydd ddigwydd?”

Betty: Gan chwerthin, dywedais “mae gennym ni blentyn nawr!”

Hannah: Fe gyrhaeddodd gyda dim ond rhywfaint o ddillad a thedis, felly cyn gynted ag yr oeddem ni’n gwybod ei bod hi’n dod, fe wnaethon ni lenwi ei hystafell gyda phethau y byddai hi’n eu caru ac yn nes ymlaen, fe aethon ni â hi i siopa, er mwyn iddi gael cyfle i ddewis ei rhai ei hun. Roedd yn gyfnod llawn prysurdeb, ond fe wnaethon dderbyn cefnogaeth wych gan y tîm meddygol a’r gweithwyr cymdeithasol, a oedd yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n iawn yn rheolaidd.

Betty: Alla i wir ddim cofio bywyd cyn iddi gyrraedd erbyn hyn. Mae personoliaeth Cadie yn gweddu’n berffaith â’n personoliaeth ni – mae hi’r un mor wallgof a sarcastig. Mae hi’n union fel un ychwanegol ohonom ni: ffraeth fel fi a hynod emosiynol fel Hannah.

y noson gyntaf ac addasu i drefn newydd

Hannah: Y diwrnod cyn iddi symud i mewn yn swyddogol, fe wnaethom ei chasglu hi o’r ysgol a pharatoi un o’i ffefrynnau i swper – selsig a thatws stwnsh. Y diwrnod canlynol, ar ôl ysgol, fe wnaethom baratoi ei hystafell, trwy gymysgu ei hen deganau gyda rhai newydd, a threulio amser yn ei helpu i ymgartrefu.

Fe wnaethom ni bitsas gyda’n gilydd y noson honno, yn ogystal â mynd i’r parc, gwylio ffilm a chwarae rhywfaint o gemau. Roedd hi’n llawn egni ac yn siaradus iawn. Roedd amser gwely yn ddidrafferth iawn – fe wnaethom ni roi dewisiadau iddi fel gadael y drws ar agor, ac roedd hi’n cysgu’n sownd mewn 30 munud.

Dw i’n cofio eistedd i lawr wedyn a dweud, “Mae gennym ni blentyn”. Roedd yn teimlo’n swreal.

Betty: Ro’n i’n poeni y byddai’r sŵn yn ein fflat yn tarfu arni, ond mae’n ymddangos ei bod hi’n un sy’n cysgu’n drwm iawn!

Hannah: Y bore wedyn, cawson ni i gyd frecwast ac fe wnaethom ei danfon i’r ysgol gyda’n gilydd. Fe wnaethom ni’n siŵr fod y ddwy ohonom ni yno ar gyfer ei danfon i’r ysgol a’i chludo oddi yno yn ystod yr wythnosau cyntaf, fel ei bod hi’n gwybod ein bod ni’n dîm.

addasu i ffiniau a rheolau’r cartref

Betty: Ar y dechrau, roedd gosod rheolau’r cartref yn teimlo’n eithaf naturiol – rheolau fel dim rhegi na gwylio’r teledu ar ôl amser penodol.

Hannah: Roedden ni’n sicr yn fwy hamddenol ar y dechrau. Roedd gennym ni syniadau fel eistedd gyda’n gilydd bob amser swper, ond mae rhai pethau wedi datblygu’n naturiol. Sylweddolais fy mod i’n aml yn rhy hamddenol, tra bod Betty ychydig yn fwy llym.

Betty: Ia, mi wnes i addasu’n gyflymach i drefn a strwythur.

Hannah: Rhwng y ddwy ohonom, roedd yna gydbwysedd. Mae gen i fwy o brofiad gyda phlant, felly roedden ni’n trafod beth oedd yn gweithio neu ddim yn gweithio – fel ôl-drafodaeth fach deuluol. Byddem yn myfyrio gyda’n gilydd ac yn addasu ein dull gweithredu yn ôl yr angen.

Rydyn ni wedi dysgu bod sgyrsiau agored yn allweddol – nid yn unig rhyngom ni, ond gyda Cadie hefyd. Mae rhoi cyfle iddi rannu ei theimladau yn ein helpu i ddeall “pam” ei bod yn ymddwyn mewn rhai ffyrdd penodol. Rydyn ni wedi ffeindio ein traed erbyn hyn – Betty yw’r un mwyaf llym o hyd, dw i’n fwy hamddenol, ond gyda’n gilydd mae’n gweithio.

gofalu am blentyn gydag anghenion meddygol

Betty: Ar y dechrau, roedden ni’n ofalus iawn – yn cadw llygad arni’n gyson a phrin yn cysgu.

Hannah: Hyd yn oed gyda hyfforddiant, roedd yn newid mawr. Ond, o fewn wythnos, fe wnaethom ni ffeindio ein traed ac roeddem ni’n teimlo’n hyderus yn rheoli ei hanghenion meddygol. Fe wnaeth y gefnogaeth gan y tîm meddygol wahaniaeth mawr.

Roeddem yn bendant hefyd ynghylch peidio â gadael i’w chyflwr ei diffinio. Fe wnaethon ni ymdrin â’i chyflwr fel rhan o fywyd bob dydd, ac fe wnaeth hynny helpu’n fawr gyda lleihau ei phryder. Nid oedd hi’n hawdd addasu i faethu a gofal cymhleth – ond fe wnaethom ni ddatrys pethau, ac mae’n teimlo’n gwbl naturiol bellach.

sut mae maethu wedi effeithio ar ein perthynas?

Hannah: Yn ddi-os, mae maethu wedi dod â ni’n nes at ein gilydd, fel unrhyw rieni newydd, roedd rhaid i ni ddysgu sut i rianta, yn ogystal â sut i rianta’n therapiwtig fel tîm. Roedd gennym ni syniadau gwahanol ar y dechrau ac roedden ni’n ei chael hi’n anodd gwneud amser i’n gilydd, ond gyda chefnogaeth gan ein gweithiwr cymdeithasol, Gwen, fe wnaethon ni ddod o hyd i ddatrysiad.

Betty: Mae canfod cydbwysedd wedi bod yn allweddol – amser i ni yn unig, amser i Cadie, ac amser gyda’n gilydd fel teulu.

Hannah: Yn y lle cyntaf, fe wnaethon ni ganolbwyntio ar weithgareddau ar ei chyfer hi’n unig, ond fe sylweddolon ni ei bod hi’r un mor bwysig gwneud pethau yr ydym ni i gyd yn eu mwynhau – fel bowlio neu ystafelloedd dianc.

yr hyn rydym ni wedi’i ddysgu a sut rydym ni wedi datblygu

Hannah: Roeddwn i braidd yn ansicr ar y dechrau ynghylch sut y byddai pethau’n gweithio – yn enwedig o amgylch y tŷ, gan mai fi oedd fel arfer yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith tŷ. Ond, fe wnaeth Betty addasu’n dda iawn i faethu, gan ymdrechu gyda phob elfen. Mae’n sicr yn fwy cyfartal erbyn hyn.

Betty: Faswn i’n dweud mod i’n well hefo hynny erbyn hyn… [chwerthin]

Hannah: Rydym wedi addasu i ffordd gwbl newydd o fyw gyda’n gilydd.

beth oedd ymateb ein teuluoedd

Hannah: Roedd teulu Betty yn gefnogol iawn – mae ganddynt brofiad uniongyrchol o beth yw maethu. Roedd fy nheulu i’n fwy petrusgar, yn enwedig fy neiniau a theidiau. Roedden nhw’n poeni ein bod ni’n rhy ifanc neu nad oeddem wedi “byw ein bywydau” eto. Cafodd llystad fy mam brofiad anodd gyda mabwysiadu yn y gorffennol, a dyna sy’n sail i’w bryderon.

Ond mae fy rhieni wedi gwybod erioed pa mor angerddol ydw i am faethu. Hyd yn oed os oedd ganddyn nhw amheuon, roedden nhw’n gwybod y byddwn i’n dilyn fy nghalon – rydw i wedi bod eisiau gwneud hyn ers amser maith.

ymateb y gymuned a chyflwyno ein plentyn

Betty: Dw i heb gael unrhyw brofiad o rywun o’r gymuned yn beirniadu.

Hannah: Na finnau – ond ni fyddwn ni fel arfer yn cyhoeddi’n agored ein bod ni’n ofalwyr maeth.

Betty: Gall cyflwyno’r plentyn i eraill fod yn anodd. Weithiau, mae hi’n cyfeirio atom fel ei mamau, ond droeon eraill bydd hi’n dweud gofalwyr maeth. Rydym ni’n gadael iddi benderfynu beth sy’n teimlo’n iawn.

Hannah: Mae hi’n hapus hefyd pan fydd dieithriaid yn ein galw ni’n ‘mam’. Byddwn yn gwneud yn siŵr ei bod hi’n hapus gyda hynny bob amser.

Betty: Fel arfer, byddaf yn dweud mai hi yw ein merch faeth. Mae’n cadw pwysigrwydd ‘merch’ wrth barchu rôl ei mam fiolegol.

Hannah: Rydym yn cadw’r sgyrsiau hyn yn agored gyda hi’n rheolaidd.

Betty: Moment annwyl iawn oedd ei chlywed yn dweud wrth blentyn arall yn falch yn y parc fod ganddi dair mam. Mae hynny’n golygu llawer i ni.

dathlu penblwyddi a’r nadolig

Betty: Rydym ni’n gwneud ymdrech go iawn – gan addurno’r lolfa gyda balŵns a lluniau!

Hannah: Roedd hi wedi’i llethu braidd ond yn gyffrous, yn enwedig am y beic a gafodd ar ei phen-blwydd. Fe wnaethom ni dreulio amser gyda’i thad hefyd yn bowlio a chael swper, ac roedd hi wrth ei bodd yn cael gwneud hynny.

Betty: Trwy ei chynnwys hi mewn traddodiadau teuluol fel penblwyddi a’r Nadolig, mae hi wedi teimlo ei bod hi wir yn cael ei charu a’i derbyn gan bawb yn y teulu.

Hannah: Mae wedi bod yn brofiad newydd i bob un ohonom ni – roedd cymaint i feddwl amdano, ond fe gawson ni hwyl. Ar ôl y Nadolig cyntaf, dywedodd ei bod hi wrth ei bodd yn ymweld â theulu a’i bod eisiau gwneud yr un fath eto’r flwyddyn nesaf!

adegau heriol a chefnogaeth

Betty: Yn onest, dydyn ni heb brofi heriau sylweddol.  Rydyn ni wedi profi ambell ymddygiad heriol, ond nid oedd byth yn teimlo’n llethol, gan fod gennym ni system gefnogi gadarn ar waith. Y cyfan a wnawn yw gofyn, “Sut rydym ni’n mynd o gwmpas hyn?”  a dibynnu ar ein gilydd a’n gweithwyr proffesiynol am arweiniad.

Hannah: Rydym yn sylwi ar sbardunau sy’n gysylltiedig â’i gorffennol ac yn gweithio’n gyson ar strategaethau. Rydym yn cael ôl-drafodaeth gyda’n gilydd ac yn siarad gyda hi ynghylch ei theimladau, ac mae hynny’n ei helpu i ddeall a rheoleiddio ei hemosiynau. Rydym yn defnyddio cardiau gweledol teimladau, arferion a dyddiadur y mae hi’n ysgrifennu ynddo a blwch synhwyraidd i’w chefnogi. Mae mynd am dro neu egwyliau’n helpu hefyd. Mae ein seicolegydd clinigol a’n gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol wedi cynnig cyngor a chefnogaeth emosiynol wych, gan ein hatgoffa nad ydym ar ein pennau ein hunain a darparu’r adnoddau a’r dulliau sydd eu hangen arnom ni i reoli’r adegau hynny. Mae gwybod bod gennym y gefnogaeth honno wrth gefn yn gwneud gwahaniaeth mawr.

yr hyn yr hoffem i bobl ei wybod am faethu

Hannah: O ran maethu, mae llawer o bobl yn canolbwyntio ar yr elfennau negyddol fel honiadau neu ymddygiadau, ond mae maethu wir wedi bod yn brofiad gwerth chweil i ni, ac mae wedi newid ein bywydau. Mae gweld Cadie yn ffynnu ac yn mwynhau ei bywyd wedi bod yn anhygoel.

Mae ein profiad gyda’r teulu biolegol wedi bod yn un cadarnhaol – maen nhw’n ddiolchgar ac yn dweud ein bod ni wedi gwneud gwahaniaeth go iawn.

Betty: Defnyddiwch eich cryfderau – creadigrwydd, hoffter a phwy ydych chi. Mae ein sgiliau yn cyd-fynd â’i gilydd yn berffaith.

Bydd profiad pob teulu yn wahanol, ond mae maethu wir yn newid deinameg y teulu cyfan.  I unrhyw un sy’n ystyried maethu, mae’n bwysig cofio nad eich aelwyd agos yn unig fydd yn tyfu – ond eich rhwydwaith cymorth cyfan. Ac yn ein hachos ni, mae hynny wedi bod yn siwrnai hyfryd, sydd wedi newid ein bywydau.

dechrau ein siwrnai i fod yn deulu drwy faethu

Betty a Hannah: Ar ôl priodi, rydym ni’n bwriadu ymchwilio i IVF a thyfu ein teulu ymhellach. A bod yn onest, dydyn ni ddim yn hollol siŵr pam wnaethon ni benderfynu maethu yn gyntaf, ond roedden ni’n dwy’n cytuno ei fod yn teimlo fel y cam iawn wrth ddechrau arni. Rydym ni’n falch iawn mai maethu oedd ein cam cyntaf – rydyn ni wrth ein bodd yn maethu. 

Hannah a Betty, gofalwyr maeth ifanc o Gonwy

ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf i faethu, fel Betty a Hannah?

Os ydych chi’n byw yng Nghonwy, cysylltwch â Maethu Cymru Conwy a bydd Jess, ein Swyddog Recriwtio ymroddedig, yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar i’ch helpu i benderfynu a yw maethu yn iawn i chi, heb orfod ymrwymo i ddim byd. 

Os ydych chi’n byw mewn rhan arall o Gymru, ewch i wefan Maethu Cymru i gael gwybodaeth am dîm maethu eich awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch