blog

Maethu Pobl Ifanc yn eu Harddegau: Pam ei fod yn bwysicach nag erioed

Mae Steve a Karen yn rhannu eu profiad gwerthfawr o faethu pobl ifanc yn eu harddegau a’r gwahaniaeth y mae wedi’i wneud.

Pan fydd pobl yn ystyried maethu, maen nhw’n aml yn meddwl am fabis neu blant iau. Mae pobl ifanc yn eu harddegau’n cael eu diystyru’n aml oherwydd rhagdybiaethau am eu hymddygiad neu bryderon y gallai’r heriau fod yn ormod.

Ond i Steve a Karen, sydd wedi bod yn maethu ers dros 15 mlynedd ac sy’n ofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Conwy, mae maethu pobl ifanc yn eu harddegau wedi dod yn rhan werth chweil o’u taith.

Doedden nhw ddim yn bwriadu canolbwyntio ar bobl ifanc yn eu harddegau ar y cychwyn. Yn wir, datblygu’n raddol tuag at faethu wnaethon nhw. Ar ôl i’w plant eu hunain ddod yn fwy annibynnol, eglurodd Steve fod eu cartref yn teimlo’n wag a’u bod yn “cicio’u sodlau o gwmpas y lle ar eu pennau eu hunain”.

Dylanwad Profiad Personol

Cafodd eu penderfyniad i faethu ei ddylanwadu hefyd gan eu profiad personol. Meddai Steve: “Bu farw fy mam pan oeddwn i’n bump oed ac fe gawsom ni ein magu gan fy modryb, a roddodd ddealltwriaeth dda i ni o ba mor bwysig y gall cartref sefydlog fod.”

Mae Karen a Steve wedi gofalu am 13 o blant bellach, sy’n benderfyniad sydd wedi dylanwadu ar fywydau nifer o bobl ifanc lleol, yn ogystal â’u bywydau nhw eu hunain. Dechreuodd Karen a Steve faethu gydag asiantaeth annibynnol yn 2010, gan ofalu am frawd a chwaer ifanc am gyfnod byr. Wrth iddyn nhw ystyried darparu gofal hirdymor mwy sefydlog, fe ddechreuon nhw faethu gyda’u hawdurdod lleol yng Nghonwy, a oedd yn gweddu’n well iddyn nhw.

Gofalu am Bobl Ifanc yn eu Harddegau’n dod yn Naturiol

Ar ôl cael cynnig darparu gofal mwy hirdymor i bobl ifanc yn eu harddegau, daeth Karen a Steve i sylweddoli’n raddol bod cefnogi plant hŷn yn rhywbeth oedd yn gweithio’n dda i’w teulu nhw. Meddai Karen: “Nid maethu pobl ifanc yn eu harddegau oedd ein bwriad gwreiddiol ni, ond rŵan, pe baech chi’n gofyn i ni pa grŵp oedran sy’n gweddu orau i ni, fe fydden ni’n bendant yn dweud pobl ifanc yn eu harddegau.”

Empathi wrth Wraidd eu Hagwedd

Yr hyn sydd fwyaf amlwg yn agwedd Steve a Karen yw empathi a dealltwriaeth yn hytrach na threfn gadarn a set o reolau llym. Wrth drafod yr heriau y gallai pobl ifanc yn eu harddegau eu hwynebu, dywedodd Karen: “Rydw i’n meddwl mai empathi ydi’r gair allweddol.”

Yn hytrach na rhuthro i feirniadu ymddygiad anodd neu heriol, maen nhw’n canolbwyntio ar ddod i ddeall beth sydd y tu ôl iddo. Fel mae Karen yn egluro, “O’n profiad ni, fe all eistedd i lawr gyda nhw a dweud wrthyn nhw nad yw rhywbeth yn iawn achosi iddyn nhw fynd i’w cragen yn llwyr weithiau.”

Camsyniadau Heriol am Bobl Ifanc yn eu Harddegau mewn Gofal

Trafododd Steve a Karen gamsyniadau cyffredin am bobl ifanc yn eu harddegau mewn gofal, fel y rhagdybiaeth eu bod i gyd yn ymddwyn yn negyddol, yn defnyddio cyffuriau neu’n rhedeg i ffwrdd.

Er y gallai rhai pobl ifanc yn eu harddegau arbrofi gyda sylweddau neu ymddwyn yn heriol, roedden nhw’n pwysleisio bod hyn yn rhywbeth nodweddiadol yn ystod llencyndod ac nid yn unigryw i blant mewn gofal.

Pwysleisiodd Steve bwysigrwydd empathi a dealltwriaeth, gan annog gofalwyr maeth i gofio sut roedden nhw’n teimlo yn eu harddegau a’r pwysau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu.

“Mae’n rhaid i chi eich rhoi eich hun yn eu hesgidiau nhw,” meddai. “Os ydych chi’n cofio sut beth oedd bod yn 15 oed… gall y cyfnod rhwng 15 a 17 oed fod yn amser anodd iawn, a dyna pryd mae’n bwysig cael cymorth a chefnogaeth.”

Mae’r ddealltwriaeth honno’n dylanwadu ar sut maen nhw’n ymateb i ymddygiad a allai gael ei feirniadu’n hallt fel arall. Yn hytrach na meddwl am bobl ifanc yn eu harddegau sydd mewn gofal fel unigolion “problemus”, maen nhw’n gweld pobl ifanc sy’n ceisio canfod eu ffordd drwy ddryswch, pwysau, trawma a bregusrwydd i gyd ar draws ei gilydd.

Creu Ymdeimlad o Gartref

Mae creu ymdeimlad o gartref yn rhan ganolog arall o’u hagwedd. “Mae prydau bwyd teuluol yn bwysig,” meddai Karen, gan gydnabod hefyd ei bod yn bwysig bod yn hyblyg, ac na fydd pob person ifanc yn teimlo’n barod i ymuno ar unwaith.

Mae Karen a Steve yn annog pobl ifanc yn eu harddegau i gymryd perchnogaeth o’u hystafell wely. “Rydym ni’n annog y plant i addurno eu hystafell yn eu ffordd eu hunain, am mai eu lle nhw ydi o.”

Mae Steve yn ychwanegu bod preifatrwydd yn bwysig hefyd: “Rydym ni’n dweud wrthyn nhw mai eu lle nhw eu hunain ydi eu hystafell wely… rydym ni wastad yn cnocio’r drws!” Ynghyd â pharatoi eu hystafell wely, mae Karen hefyd yn holi pob person ifanc pa nwyddau ymolchi maen nhw’n eu defnyddio, fel siampŵ, cyflyrydd gwallt, a sebon cawod, ac yn prynu’r brandiau maen nhw’n eu hoffi yn hytrach na rhoi unrhyw frand generig iddyn nhw.

Pwysigrwydd bod yn Hyblyg

Mae eu profiad nhw’n dangos y gall teimlo’n gartrefol gymryd amser. Meddai Karen: “Mae maethu pobl ifanc yn eu harddegau’n galw am hyblygrwydd, yn enwedig o ran addasu rheolau’r tŷ i fodloni anghenion unigol.” Gall rhai pobl ifanc osgoi prydau bwyd teuluol neu gael trafferth cadw at drefn ddyddiol am beth amser. Ond nid gorfodi’r broses honno yw rôl Steve a Karen, ond yn hytrach, creu amodau sy’n annog y bobl ifanc i ddechrau dod i ymddiried ynddyn nhw yn araf ac yn ddiogel.

“Ymddiriedaeth sy’n sail i bob dim,” meddai Karen, ac ychwanegodd Steve, “Mae’n rhaid i chi feithrin ymddiriedaeth ‘does?”

Mae hyn yn golygu gosod ffiniau heb orfodi rheolau cyffredinol sy’n anwybyddu cymeriad unigryw’r bobl ifanc. Eglurodd Karen, “Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn bersonol am fod pob person ifanc yn eu harddegau’n wahanol.”

Paratoi Pobl Ifanc yn eu Harddegau i fod yn Annibynnol

Trafododd Karen a Steve eu dull o feithrin annibyniaeth a pharatoi’r bobl ifanc i fod yn oedolion. Maen nhw’n annog y bobl ifanc i ddechrau cymryd cyfrifoldebau’n raddol, fel bod yn gyfrifol am olchi eu dillad eu hunain a chyllidebu. Maen nhw’n helpu pobl ifanc yn eu harddegau i agor cyfrif banc ac yn eu dysgu sut i reoli eu harian, gan gynnwys cynilo ar gyfer unrhyw nod sydd ganddyn nhw at y dyfodol fel gwersi gyrru neu brynu car.

Disgrifiodd Steve sut mae’n dysgu pobl ifanc sut i gynilo: “Yr adeg orau i gynilo ydi’r diwrnod rydych chi’n cael eich cyflog.” Efallai fod y gwersi yma’n ymddangos yn fychan, ond maen nhw’n helpu’r bobl ifanc i fagu hyder ac yn eu helpu i ddychmygu dyfodol iddyn nhw eu hunain.

Mae Karen a Steve hefyd yn helpu eu pobl ifanc, Adam* a Sarah*, drwy eu cludo i ac o’r gwaith yn ôl yr angen. Ychwanegodd Steve: “Pan fydd Sarah yn gorffen gweithio’n hwyr, mae’n anfon neges ataf i ac fe af i draw i’w nôl hi. Mae hi wrthi’n cynilo i gael gwersi gyrru.”

Addasu’r Cymorth ar gyfer Anghenion Unigol

Pwysleisiodd Karen a Steve bwysigrwydd addasu eu dull i gyd-fynd ag anghenion a diddordebau pob person ifanc. Er enghraifft, roedden nhw’n disgrifio helpu person ifanc heb unrhyw ddiddordeb mewn chwaraeon drwy eu helpu i archwilio diddordebau creadigol fel celf a ffotograffiaeth. Roedden nhw hefyd yn pwysleisio gwerth annog pobl ifanc i gymryd perchnogaeth o’u cyfrifoldebau, gan gynnig arweiniad a chymorth yn ôl yr angen.

Y Boddhad a Geir o Faethu Pobl Ifanc yn eu Harddegau

Mae yna lawer iawn o foddhad i’w gael o faethu pobl ifanc yn eu harddegau. Wrth edrych yn ôl, dywedodd Steve mai’r peth sy’n rhoi’r boddhad mwyaf yw “pan ydych chi’n eu gweld nhw rŵan” ac yn gweld beth maen nhw wedi llwyddo i’w gyflawni. Ychwanegodd Karen, “Rydym ni’n falch ohonyn nhw i gyd gan fod pob un ohonyn nhw wedi cyflawni rhywbeth.”

Mae’r bobl ifanc maen nhw wedi gofalu amdanyn nhw wedi mynd ymlaen i’r brifysgol, wedi cael cymwysterau mewn meysydd proffesiynol fel nyrsio a gofal deintyddol, wedi cael swyddi, wedi dysgu gyrru, ac wedi llwyddo i fyw bywydau annibynnol. Mae sawl un yn dal i ddod yn ôl am ginio Nadolig, barbeciw, neu dim ond i gadw cysylltiad.

Cred Syml ond Pwerus

Wrth wraidd neges Steve a Karen mae cred syml ond pwerus: “Maen nhw i gyd yn haeddu cyfle.” Gall hyd yn oed cyfnod byr o sefydlogrwydd, gofal ac anogaeth gael effaith hirhoedlog. Mae pobl ifanc yn eu harddegau mewn cyfnod pwysig iawn yn eu bywydau, ac fel y mae Karen yn egluro, “Mater o roi cyfle iddyn nhw ydi o”.

Ddylai pobl ifanc sydd mewn gofal ddim cael eu diffinio yn ôl yr heriau maen nhw’n eu hwynebu. Maen nhw’n bobl ifanc gyda photensial, hiwmor, hunaniaeth a chryfder. Gydag empathi, amynedd ac ymddiriedaeth, mae profiad Steve a Karen yn dangos y gall maethu pobl ifanc yn eu harddegau fod yn brofiad gwirioneddol werth chweil.

Ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf tuag at faethu a helpu newid bywyd person ifanc, fe mae Steve a Karen wedi’i wneud?

Os ydych chi’n byw yng Nghonwy, cysylltwch â Maethu Cymru Conwy ac fe wnaiff Jess, ein Swyddog Recriwtio ymroddedig, gysylltu â chi am sgwrs gyfeillgar heb unrhyw bwysau,  i’ch helpu chi benderfynu a yw maethu’n rhywbeth y gallwch chi ei wneud.

Os ydych chi’n byw mewn rhan arall o Gymru, ewch i wefan Maethu Cymru i gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i dîm maethu eich awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch