blog

seibiannau byr – stori Sandra

Mae yno lawer o wahanol fathau o ofal maeth ond mae ganddynt oll un peth yn gyffredin – maent yn cynnig cartrefi i blant. Lle diogel i blant fedru ffynnu. Lle llawn cariad.

Gall gofal maeth fod yn drefniant dros nos, seibiant byr neu’n rhywbeth mwy hirdymor. Gellir cyfuno maethu â’ch bywyd arferol, a gall rhai mathau o faethu fod yn fwy addas nag eraill.

Mae nifer helaeth o ofalwyr maeth yn dal i weithio mewn swyddi eraill wrth gynnig seibiannau byr ac eraill yn maethu’n llawn amser.

beth yw maethu am seibiannau byr?

Mae seibiannau byr yn rhoi ysbaid hollbwysig i blant sydd eu hangen fwyaf. Fel Gofalwr Maeth, gallwch gynnig seibiannau byr i blant a phobl ifanc anabl sy’n dal i fyw gyda’u rhieni neu’u teuluoedd.  Mae llawer o blant a phobl ifanc ag anableddau sydd angen teulu maeth.

Maent yn cynnwys plant ag anableddau corfforol, anableddau dysgu, nam ar y synhwyrau neu gyfuniad o’r rhain. Mae teuluoedd plant anabl yn fwy tebygol o chwalu ac felly mae seibiannau byr, rheolaidd yn hanfodol i gefnogi’r plentyn a’r teulu. Ein tîm sy’n cynllunio’r seibiannau byr o flaen llaw, boed hynny mewn trefn reolaidd neu’n unol ag anghenion y plentyn. Mae seibiannau byr yn cynnig cyfleoedd newydd ardderchog i blentyn gael profiad o gartref a theulu gwahanol, ac yn helpu i greu atgofion newydd.

Daw Gofalwyr Maeth seibiannau byr yn estyniad o’r teulu sy’n darparu amgylchedd cariadus pan mae angen hynny fwyaf.

dewch i gwrdd â Sandra a Mark

Mae Sandra a Mark wedi bod yn maethu gyda’r awdurdod lleol, Maethu Cymru Conwy, ers mwy na 22 o flynyddoedd, a buont yn darparu seibiannau byr i blant ag anableddau am flynyddoedd maith cyn iddynt fabwysiadu bachgen bach a dod yn ofalwyr maeth hirdymor i blentyn ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae Sandra’n sôn am eu rhesymau dros ddewis maethu am seibiannau byr a sut aethant ati i gyfuno’r math penodol hwn o faethu â gweithio’n llawn amser.

sut ddechreuoch chi faethu, ac yn benodol darparu seibiannau byr?

“Fe ddechreuais i feddwl am faethu pan oedd Mark yn y fyddin. Roedden ni oddi cartref yn aml pan oedd y plant yn fach ac roeddwn i bob tro’n meddwl beth fyddai’n digwydd i’r plant pe byddai rhywbeth yn digwydd inni? Roeddwn i bob amser yn gobeithio y byddai rhywun fel ni’n gofalu am ein plant.”

Un diwrnod yn y gwaith, galwodd rhywun i mewn a oedd yn ofalwr maeth, ac fe sonion nhw am bopeth ynglŷn â maethu imi. Doeddwn i ddim yn meddwl y gallwn i faethu a ninnau’n dau’n gweithio, ond fe ddywedodd hi y dylwn i holi am y peth, a dyna lle gychwynnodd popeth!”

“Ar ôl mynd adref y noson honno a sôn wrth Mark, roedd yntau’n llwyr o blaid maethu! Fe wahanodd rhieni Mark ei hun ac felly roedd o’n deall ac yn gallu uniaethu efo’r teimlad o golled mewn teulu.

I ddechrau, fe holais am faethu hirdymor. Pan ddaeth aelod o’r tîm draw am yr ymweliad cychwynnol fe ofynnon nhw a oedden ni erioed wedi meddwl am gynnig seibiannau byr i blant ag anableddau, gan ystyried bod y ddau ohonon ni’n gweithio’n llawn amser.

Doeddwn i byth wedi clywed am ofal maeth am seibiannau byr, heb sôn am seibiannau i blant anabl. Ar y cychwyn doedden ni ddim yn meddwl fod gennym ddigon o brofiad, ond cawsom wybod fod hyfforddiant ar gael. Buan iawn y sylweddolon ni fod seibiannau byr yn berffaith inni, gan fod modd inni ddal i weithio’n llawn amser. Roedd ein plant i gyd wedi tyfu i fyny ac felly roedd gennym ddigon o amser a lle yn y tŷ.”

sut brofiad oedd dod yn ofalwr maeth cymeradwy?

“Pan oedden ni’n barod i ddechrau, neilltuwyd gweithiwr cymdeithasol inni ac fe gychwynnodd y broses asesu’n syth. Mae’n gallu bod yn broses hir, ac fe ddechreuon ni wneud ein cyrsiau hyfforddiant wrth inni fynd drwyddi. Roedd hynny’n ffordd dda iawn o baratoi ar gyfer ein taith ym myd maethu. Fe wnaethon ni’r cwrs ‘Sgiliau i Faethu’ a chyrsiau am bynciau penodol fel awtistiaeth, epilepsi ac ymlyniad.”

oeddech chi’n gallu dal i weithio wrth ddarparu seibiannau byr?

“Oedden, roedd y ddau ohonon ni’n gweithio’n llawn amser. Roedden ni’n gofalu am un bachgen awtistig am un penwythnos bob mis, bachgen â pharlys yr ymennydd am un penwythnos bob mis, ac fe fyddai bachgen bach arall yn aros dros nos pan oedd angen seibiant ar ei fam. Roeddwn i’n gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9 a 5 felly roedd hynny’n gweddu’n dda inni. Weithiau byddai’n rhaid imi weithio ar ddydd Sadwrn, ond roeddwn i’n gallu gwneud hynny ar benwythnosau pan nad oedd y bechgyn efo ni, ac roedd Mark gartref beth bynnag. Roedd ganddon ni benwythnos rhydd i hamddena bob mis hefyd, a oedd yn beth braf.”

soniwch rywfaint am eich taith ym myd maethu a’r teuluoedd rydych chi wedi’u cefnogi ar hyd y blynyddoedd.

“Ar ôl cael ein cymeradwyo fe gawson ein paru â bachgen bach ag awtistiaeth ac fe fuodd o’n dod aton ni nes oedd o’n tua pymtheg oed. Roedd o’n chwech oed pan ddaeth o aton ni gyntaf. Fe fyddai’n dod aton ni am un penwythnos bob mis; roedden ni’n mynd i’w nôl o ddydd Gwener a mynd â fo’n ôl i’r ysgol fore Llun.

Ychydig o wythnosau wedyn, fe gawson ein paru â bachgen bach arall â pharlys yr ymennydd, a oedd yn defnyddio cadair olwyn. Roedd hynny’n brofiad tra gwahanol gan fod yn rhaid inni ddarparu gofal personol iddo. Roedd o’n dod aton ni am un penwythnos bob mis.

Fe fuon ni’n gofalu am y ddau fachgen bach yma am beth amser, ac ar un adeg roedden ni’n gofalu am fachgen bach arall a merch fach hefyd. Wedyn fe soniodd ein gweithiwr cymdeithasol am fachgen bach a gafodd ei fabwysiadu a bod y lleoliad wedi methu, a bod ei ofalwyr maeth angen rhywun i ofalu amdano’n rheolaidd am seibiannau byr, ac fe ddywedon ni y byddem ni’n gwneud hynny. Ar ôl hynny, fe benderfynon ni ddechrau bod yn ofalwyr maeth cyffredinol yn ogystal â’r seibiannau byr. Fe ddewisais i roi’r gorau i fy swydd er mwyn gallu gwneud y ddau. Fe wnes i NVQ mewn Gofal Plant yr adeg honno. Fe fuon ni’n gofalu am y gŵr ifanc hwnnw o’r adeg pan oedd o’n 6 oed nes iddo droi’n 16.”

“Fe ofalon ni am blentyn roedd angen ei fwydo drwy PEG (Percutaneous Endoscopic Gastrostomy), sy’n golygu rhoi bwyd mewn sy’n mynd yn syth i’r stumog. Fe drefnodd ein gweithiwr cymdeithasol apwyntiad inni weld nyrs a chwblhau hyfforddiant ar fwydo efo’r pwmp. Roedden nhw’n wych. Fe gawson ni hyfforddiant penodol ar gyfer pob plentyn y buon ni’n gofalu amdanynt. Roedd hynny’n cynnwys sut i roi meddyginiaeth a dilyn cynlluniau gofal.

Ar un adeg roedden ni’n gofalu am blant am dri phenwythnos bob mis ac yn cael un penwythnos i ffwrdd i ni’n hunain. Wedyn fe aethon ni ymlaen i fod yn ofalwyr maeth cyffredinol a darparu seibiannau byr nes daeth y cyfnod clo yn 2020.”

sut wnaethoch chi ymdopi â sefyllfaoedd mwy heriol wrth faethu?

“Yn gyntaf oll, roedd hi’n hollbwysig cyfathrebu efo’r rhieni’n rheolaidd. Roedden nhw’n gallu dweud wrthoch chi sut wythnos gafodd eu plentyn. Roeddwn i’n cadw mewn cysylltiad cyson â rhieni ac yn meithrin perthynas dda efo nhw, ac fe fyddan nhw’n rhannu gwybodaeth pan oedd angen.

Hefyd, unwaith y mae plentyn wedi aros draw ambell noson rydych chi’n dod i’w hadnabod nhw’n dda a dod yn gyfarwydd â phethau sy’n eu cynhyrfu neu’n gwneud iddynt ymddwyn mewn rhyw ffordd benodol. Er enghraifft, roedd un plentyn yn dueddol o ffidlan efo’i sbectol a’u taflu nhw pan oedd o wedi cynhyrfu, ond dyna’i ffordd o gyfleu fod rhywbeth yn ei drafferthu o.

Gan fod gofal maeth am seibiannau byr yn beth rheolaidd, rydych chi’n dod i adnabod y plant yn dda a dod yn gyfarwydd iawn â’r gwaith. Dyna’r gwahaniaeth o gymharu â gofal maeth cyffredinol, dwi’n meddwl, achos bod y plant yn dod atoch chi ar ddiwrnodau penodol drwy’r flwyddyn. Mae ein tŷ ni’n dod yn ail gartref iddyn nhw.

Pe byddai plentyn yn ymddwyn yn heriol, yn dibynnu ar y plentyn, fe fyddwn i’n cynnig lle neu seibiant iddyn nhw gael llonydd. Mae rhai plant yn gallu cynhyrfu gormod weithiau ac felly mae’n bwysig creu lle tawel iddynt ddod at eu hunain. Mae’n rhaid bod yn amyneddgar.

Mae’n fuddiol cynnig gwahanol ddulliau o gyfathrebu â’r plentyn ac weithiau fe fyddwn i’n symleiddio brawddegau neu’n defnyddio PECS (System Gyfathrebu Cyfnewid Lluniau) os oedd angen.

Roedd hi’n bwysig cadw at drefn a gosod ffiniau, ac weithiau mae’n rhaid ichi fod ychydig yn llym, heb fod yn amharchus.”

pa weithgareddau a phrofiadau wnaethoch chi eu darparu i’r plant pan oedden nhw’n aros â chi?

“Fel arfer fe fydden ni’n cael paned a sgwrs wrth i’r plentyn gyrraedd. Wedyn fe fydden ni’n trio cael syniad o sut roedd yn teimlo ac yn dibynnu ar hynny, fe fydden ni naill ai’n cael penwythnos tawel, braf neu’n cynllunio rhywbeth i’w wneud efo’n gilydd.”

Dyma rai o’r pethau y buon ni’n eu gwneud efo’r plant:

  • Mynd i’r sinema neu’r theatr
  • Roedd un bachgen wrth ei fodd yn mynd allan yn y car, ac roedd o ar ben ei ddigon yn crwydro o gwmpas y lle, hyd yn oed dim ond i’r siop
  • Diwrnodau ar lan y môr
  • Chwarae ar y cyfrifiadur
  • Mynd â’r ci am dro
  • Weithiau, pethau bach syml fel cael pryd ar glud a gwylio ffilm
  • Treulio amser yn yr ardd yn chwarae pêl-droed. Mae’r ardd yn gwbl gaeedig ac felly’n lle diogel i’r bechgyn chwarae
  • Adeg y Nadolig, fe fydden ni’n mynd â’r bechgyn i weld Siôn Corn yn y ganolfan siopa leol, ac roedden nhw wrth eu boddau. Ac i’r pantomeim hefyd
  • Roedd Mark yn aelod o’r clwb hwylio ac felly fe fydden ni’n mynd yno’n aml i gael golwg ar y cychod.

ydych chi wedi addasu eich cartref er mwyn gofalu am unrhyw rai o’r plant wrth ddarparu gofal maeth am seibiannau byr?

“Nac ydyn, doedd dim rhaid inni addasu dim byd. Yr unig beth newidion ni oedd codi’r gwely rhyw fymryn ar gyfer y plentyn â pharlys yr ymennydd i’w gwneud yn haws inni ddarparu gofal heb orfod plygu’n rhy isel.

“Roedden ni’n gwybod i beidio â gwneud yr ystafell wely’n rhy symbylol. Roedd gan bob plentyn ddillad gwely ei hun a’u hoff eitemau. Fe wnaethon ni’n siŵr bod yr ystafell yn unigryw iddyn nhw pan oedden nhw’n aros yma a bod eu pethau ganddyn nhw, a phan fyddai’r plentyn arall yn dod y penwythnos wedyn, fe fyddai ganddynt eu dillad gwely eu hunain a’u hoff eitemau. Mae hynny’n bwysig iawn i ni ac i’r plant. Roedd y tŷ’n eithaf tawel ar y cyfan gan mai dim ond Mark a fi oedd yn byw yno.”

pa fudd a gawsoch chi o faethu plant ag anableddau am seibiannau byr?

“Plant ydyn nhw’n gyntaf, mae’r anabledd yn eilradd. Roedd ein plant ni wedi tyfu i fyny ac yn byw eu bywydau eu hunain ac felly roedd hi’n braf iawn cael gwneud yr holl bethau’r oedden ni’n arfer eu gwneud eto, fel chwarae gemau.

Fe gawson ni gymaint o fwynhad. Rydyn ni’n gweithio o gwmpas yr anabledd ac os ydyn nhw eisiau gwneud rhywbeth, mae rhwydd hynt iddynt wneud hynny a dylai ein plant gael yr un profiadau ag unrhyw blentyn arall. Felly fe ddaethon ni o hyd i ffordd o wneud i bethau weithio, ac roedden ni wrth ein boddau. Fe wnaethon ni dorchi’n llewys ac fe ffitiodd popeth yn berffaith efo’i gilydd.”

sut ydych chi’n ymdrin â dynameg y teulu os oes gennych eich plant eich hunain sy’n dal yn byw gartref?

“Pan sonion ni am faethu gyntaf, roedd ein plant genedigol ddim yn hoff o’r syniad o gwbl, am eu bod nhw fel llawer o bobl yn meddwl am blant mewn gofal fel plant drwg ac yn y blaen. Pan ddywedais ein bod ni’n mynd i faethu, byddai pobl yn gofyn ‘i beth?’ Roedd o’n beth mawr iddyn nhw a ninnau heb gael unrhyw brofiad o hyn o’r blaen. Ar ôl inni egluro pethau a chyflwyno’r plant iddyn nhw, roedden nhw’n gwbl gefnogol o’n penderfyniad ni.

Roedd y ddau hynaf yn y brifysgol, ond byddai’r mab yn mynd â’r bechgyn allan i’r sinema, am bryd o fwyd neu i chwarae pêl-droed pan fyddai’n dod adref o’r coleg. Roedd fy merch yn gweithio yn Pizza Hut ar y pryd ac felly fe fyddai’n mynd ag un bachgen bach i’r bwyty lle byddai’r staff yn dotio arno, ac roedd o wrth ei fodd.

Mae fy mhlant wedi chwarae rhan enfawr ym mywydau’r plant maeth ar hyd y daith, heb unrhyw eithriad.”

oes arnoch angen unrhyw brofiad i fod yn ofalwr maeth am seibiannau byr?

“Nac oes; doedd ganddon ni ddim profiad o gwbl, ond mae hyfforddiant Sgiliau i Faethu ar gael a hefyd y cyrsiau gorfodol ar ôl ichi gael eich cymeradwyo.”

pa eiriau o gyngor sydd gennych chi ar gyfer gofalu am blentyn anabl, a pha sgiliau sydd eu hangen arnoch?

  • Mae’n rhaid bod yn amyneddgar ac agored eich meddwl.
  • Byddwch yn barod i wynebu pethau annisgwyl ac addasu i newidiadau pan mae angen.
  • Peidiwch â digalonni pan mae pobl yn syllu’n gegrwth arnoch chi; mae pobl yn haerllug weithiau. Pan mae plant eraill yn dod atoch yn gofyn cwestiynau am y plentyn rydych chi’n gofalu amdanynt, ceisiwch eu haddysgu am bethau fel pam fod gan y ferch fach diwb, ac egluro mai dyna sut mae hi’n cael bwyd, er enghraifft.
  • Chi ydi eiriolwr y plentyn.
  • Cael perthynas dda â theulu’r plentyn. Er mwyn rhannu gwybodaeth yn gyson. Byddai’r rhieni’n ein ffonio ni yn ystod yr wythnos i roi gwybod a oedd rhywbeth wedi newid o safbwynt diet a meddyginiaeth.
  • Ysgrifennu popeth i lawr; roedden ni’n llunio adroddiad ar ôl pob ymweliad i’w anfon at y gweithwyr cymdeithasol a’r rhieni.
  • Mae rhai o’r plant yn dod o gartrefi anhrefnus ac felly mae sefydlu trefn yn ffordd dda o gadw’r ddysgl yn wastad. Fel y soniais i, cadw’r ystafell wely’n unigryw iddyn nhw, a bod ganddynt eu dillad gwely a’u pethau eu hunain. Fe fyddwn i’n tynnu llun o’r ystafell wely ar fy ffôn er mwyn gwybod sut i osod pethau’n iawn erbyn y tro nesaf.
  • Dangos cydymdeimlad a pharch, gofyn sut maen nhw’n teimlo a beth hoffen nhw ei wneud. Holwch sut hwyliau sydd arnynt i ddechrau.
  • Rhowch amser iddyn nhw, mae cyfrif i lawr yn eithaf defnyddiol. Pum munud, wedyn gwisgo esgidiau. Mae o’n gweithio’n dda iawn. Rydw i’n gwneud hynny efo fy wyrion a wyresau hefyd.

“Rydw i mor falch ein bod wedi dewis gwneud hyn, a fyddwn i ddim yn newid dim byd o gwbl! Doedd ganddon ni ddim math o brofiad, ond mae’r hyfforddiant yn arbennig o dda. Mae cymaint o bobl yn meddwl nad ydyn nhw’n gallu gwneud hyn – ond mi fedrwch chi! Fe wnaethon ni, ac roedden ni wrth ein boddau!” – Sandra

a fedrwch chi fod yn ofalwr maeth seibiannau byr?

Os ydych chi’n byw yng Nghonwy, cysylltwch â Maethu Cymru Conwy a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar i’ch helpu i benderfynu a yw maethu yn iawn i chi, heb orfod ymrwymo i ddim byd.

Os ydych chi’n byw mewn rhan arall o Gymru, ewch i wefan Maethu Cymru i gael gwybodaeth am dîm maethu eich awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch