paned gyda gofalwr
ystyried maethu ond yn ansicr sut i ddechrau?
Beth am fwynhau paned a sgwrs gyfeillgar gydag un o’n gofalwyr maeth profiadol?
Mae paned gyda gofalwr yn cynnig ffordd anffurfiol a chroesawgar o ddysgu mwy am faethu gyda Maethu Cymru Conwy. P’un ai bod maethu’n syniad newydd, neu’n rhywbeth yr ydych wedi’i ystyried ers peth amser, dyma eich cyfle i ofyn cwestiynau, derbyn mewnwelediad o brofiadau bywyd go iawn, a chlywed beth yn union yw maethu gan rywun sy’n deall y daith.
Nid oes unrhyw ymrwymiad na phwysau, dim ond sgwrs hamddenol mewn caffi o’ch dewis, lle y gallwch fwynhau diod wrth ddysgu mwy am faethu.
beth ydw i’n gallu ei drafod?
Unrhyw beth yr hoffech wybod mwy amdano.
Mae pobl yn aml yn holi cwestiynau fel:
- Sut beth yw bywyd dyddiol gofalwr maeth
- Sut y gellir maethu ochr yn ochr â gwaith, teulu ac ymrwymiadau eraill
- Y gefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant sydd ar gael i ofalwyr maeth
- Beth i’w ddisgwyl yn ystod yr asesiad a’r broses gymeradwyo
- Buddion a heriau maethu
- Y mathau gwahanol o faethu
Nid oes ffasiwn beth â chwestiwn gwirion. Roedd ein gofalwyr maeth yn yr un sefyllfa â chi ar un adeg ac maent yn deall sut beth yw ystyried maethu am y tro cyntaf. Maent yn fodlon rhannu eu profiadau, ateb eich cwestiynau, a chynnig mewnwelediad gwirioneddol a gonest i’r daith faethu.
mae pob siwrnai yn dechrau rhywle
cwrdd â Laura
Roedd Laura a’i phartner wedi bod yn ystyried maethu ers sawl blwyddyn pan wnaethant weld ein stondin wybodaeth yn eu canolfan hamdden leol. Wedi’u hysbrydoli i ddysgu mwy, bu iddynt gyflwyno ymholiad ar ein gwefan.
Yn dilyn yr ymholiad, trefnodd Jess, ein Swyddog Recriwtio, ymweliad i’r cartref i drafod maethu. Roedd hyn yn rhoi cyfle i Laura a’i phartner ddysgu mwy am y broses a’r math o faethu yr oedd ganddynt ddiddordeb ynddo. Roedd ganddynt ddiddordeb mewn darparu gofal byrdymor ar gyfer babanod a phlant dan 5 oed.
Fel rhan o’u taith, gwahoddwyd Laura a’i phartner i fynychu Paned gyda Gofalwr, a bu iddynt gwrdd â Dawn, un o’n gofalwyr maeth profiadol. Rhannodd Dawn ei phrofiadau o faethu babanod a phlant bach yng Nghonwy, gan roi dealltwriaeth realistig i Laura a’i phartner o faethu a sut y gall fod yn rhan o’u bywyd teuluol.
Gan deimlo eu bod wedi derbyn gwybodaeth a chefnogaeth, penderfynodd Laura a’i theulu i gymryd y cam nesaf a chyflwyno eu cais i faethu.
Heddiw, mae Laura a’i phartner yn ofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Conwy, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant a phobl ifanc lleol.
“Roedd paned gyda gofalwr yn ddefnyddiol iawn. Roedd yn galonogol siarad â rhywun gyda phrofiad uniongyrchol a oedd yn deall y broses ac yn fodlon ateb fy nghwestiynau’n onest. Roeddwn yn teimlo fod gennyf lawer o wybodaeth ac yn dawel fy meddwl ar ôl siarad â Dawn. Byddwn yn argymell paned gyda gofalwr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn maethu.”
hoffech chi gael paned gyda gofalwr maeth Conwy?
cwrdd â’n gofalwyr maeth, os hoffech sgwrs â gofalwr maeth Conwy, llenwch y ffurflen ymholi ar gyfer paned gyda gofalwr isod.