trosglwyddo i ni

dewiswch maethu cymru conwy

Rydych eisoes wedi gwneud y penderfyniad anhygoel i wneud gwahaniaeth trwy ddod yn ofalwr maeth.

Efallai eich bod eisoes yn maethu gydag asiantaeth faethu annibynnol, awdurdod lleol o fewn ein rhwydwaith Maethu Cymru neu’n ystyried symud at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Dewch o hyd i’r hyn sydd gan Maethu Cymru Conwy i’w gynnig i chi.

Mae gwasanaethau maethu awdurdod lleol yn cefnogi a gwerthfawrogi ein gofalwyr maeth, heb wneud elw.

Girl smiling

manteision maethu gydag awdurdod lleol

Mae sawl mantais ynghlwm â maethu gyda Maethu Cymru Conwy.

Byddwch yn rhan allweddol o dîm lle mae cydweithio â’r plentyn yn greiddiol i bopeth a wnawn.

Rydym yn wasanaeth gwybodus sy’n cynnwys Timau Gofal Plant, Timau Addysg, yr Adran Gyfreithiol, Hyfforddiant a Diogelu a llawer mwy. Mae pob un ohonom yn gweithio yn yr un adeilad, sy’n caniatáu i ni gydweithio’n agos.

Mae pob un ohonom ni yma i gefnogi a gwerthfawrogi ein gofalwyr maeth.

maethu'n lleol

Ni yw’r cyswllt cyntaf ar gyfer yr holl blant a phobl ifanc lleol sydd angen gofal maeth.

Mae popeth a wnawn yn lleol – o Fae Colwyn, i Lanrwst, i Benmaenmawr a Bae Cinmel.

Mewn gwirionedd felly, mae hyn yn golygu y gall ein plant a’n pobl ifanc aros yn eu hardal leol, a’u bod yn gallu gweld eu ffrindiau a’u teulu, aros yn eu hysgolion lleol a pharhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau lleol.

 

yr hyn yr ydym yn ei gynnig yn maethu cymru conwy

Fel gofalwr maeth gyda thîm Maethu Cymru Conwy, byddwch yn derbyn lwfans cynnal i dalu am gostau gofalu am blentyn neu berson ifanc, fel y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud yn amod.

Mae nifer o’n Gofalwyr Maeth yn dewis maethu fel eu gyrfa llawn amser ac felly byddant hefyd yn derbyn ein Taliad Proffesiynol Uwch fel cyflog. Mae’r taliadau hyn yn rhai cyson e.e. ni fydd y taliad yn cael ei atal os nad oes plentyn gyda chi – felly ceir incwm dibynadwy trwy faethu gyda Maethu Cymru Conwy.

Pan fyddwch yn maethu gyda Maethu Cymru Conwy, byddwch yn cael mynediad at y canlynol:

  • Cardiau Ffit Conwy
  • Cardiau Disgownt Venue Cymru
  • Aelodaeth Rhwydwaith Maethu
  • Care First
  • Mynediad am bris gostyngol i’r Sŵ Fynydd Gymreig
  • Grwpiau Cefnogi a Diwrnodau Gwasanaeth
  • Aelodaeth Cadw
  • Cerdyn ‘Max’
  • Disgowntiau yn Zip World
  • Cerdyn Blue Light
  • Lwfansau Penblwyddi a Gwyliau
  • Hawl i Wyliau Blynyddol
  • Lwfans Costau Teithio
  • Eich Gweithiwr Cymdeithasol dynodedig ar gyfer cefnogaeth barhaus
  • Mynediad at Linell Ddyletswydd 24 awr y dydd
  • Hyfforddiant a Chefnogaeth Cyn Cymeradwyaeth

sut i drosglwyddo atom ni

Bob blwyddyn, mae tua 50 o ofalwyr maeth yn trosglwyddo o asiantaethau maethu masnachol at wasanaeth maethu awdurdod lleol yng Nghymru.

Y cam cyntaf tuag at drosglwyddo atom yw cael sgwrs, ac nid oes unrhyw bwysau arnoch. Rydym ni’n gwybod y gall newid deimlo’n frawychus a dyma pam y byddwn yn eich cefnogi chi gam wrth gam, nes eich bod chi’n hapus eich bod yn gwneud y penderfyniad cywir.

“Yn fuan ar ôl troi’n bedwar deg, dechreuais faethu pobl ifanc yn eu harddegau trwy asiantaeth. Roedd llawer o’r bobl ifanc yn dod o’r tu allan i’r ardal. Golyga hyn eu bod dan anfantais. Roeddent yn colli cysylltiad â’u ffrindiau, y llefydd oedd yn gyfarwydd iddynt a’u cynefin. Gan fy mod bellach yn maethu gydag awdurdod lleol, mae’r bobl ifanc yn aros yn lleol. Golyga hyn eu bod yn cael aros yn eu cynefin, sydd o gymorth iddynt deimlo’n ddiogel, ac mae’n fwy naturiol o ran ymweliadau, mynediad ac amser gyda’r teulu.”   

Jo, Gofalwr Maeth, Conwy

cael eich canllaw trosglwyddo

Cliciwch ar y botwm isod i dderbyn canllaw ‘Trosglwyddo atom Ni’ sy’n cynnwys mwy o wybodaeth am fanteision trosglwyddo atom ni, sut mae’r broses yn gweithio a pham ddylech chi drosglwyddo i Maethu Cymru Conwy.