blog

beth yw maethu seibiant byr a pham mae’n bwysig?

Yn ddiweddar rydym wedi bod yn sôn am yr angen am ofal maeth seibiant byr a’i bwysigrwydd i deuluoedd lleol sydd â phlant anabl. Ond beth yn union mae’n ei olygu, a pham mae mor bwysig? 

Fel gofalwr maeth, gallwch gynnig arhosiad byr i blant a phobl ifanc anabl lleol sy’n dal i fyw gyda’u rhieni neu eu teuluoedd.

Mae maethu am seibiannau byrion yn drefniant rheolaidd lle’r ydych yn cynnig cymorth i deulu lleol pan fo’i angen fwyaf. 

Fel arfer, mae’r math hwn o faethu’n golygu y byddwch yn cefnogi’r un plant a’u teuluoedd, a fydd yn eich galluogi i weld yn union y budd y mae’r teuluoedd hynny yn ei gael o’ch gofal.

Gall y seibiannau byrion hyn, a elwir weithiau yn ‘gymorth gofal’, fod yn ystod y dydd, dros nos, ar y penwythnosau neu wyliau’r ysgol, neu ar amser sy’n gweithio i bawb.

rhywfaint o amser i ffwrdd

Mae seibiannau byrion yn galluogi plant i gael rhywfaint o amser oddi wrth eu teulu, gan roi’r cyfle iddyn nhw brofi pethau newydd, gweld lleoedd newydd a chael rhywfaint o annibyniaeth o fewn rhwydwaith deuluol estynedig.

Gall seibiannau byrion rheolaidd gael effaith gwirioneddol ar fywyd plant anabl a rhoi cyfle i’w teuluoedd gael eu cefn atynt.

Mae gofalu am blentyn anabl yn aml yn waith llawn amser a all arwain at flinder corfforol ac emosiynol. Mae cael y cyfle i orffwyso a chael seibiant o bryd i’w gilydd, gan wybod bod eu plentyn yn ddiogel ac yn cael gofal, yn gwella ansawdd y gofal y gallant ei ddarparu.

stori Lillie

Un teulu lleol sydd wedi elwa o ofal seibiant byr am sawl blwyddyn yw teulu Lillie o Gonwy.

Mae gan Lillie, sydd bellach yn 20, gyflwr genetig prin yn ogystal â llawer o broblemau iechyd ac anawsterau dysgu eraill, gan gynnwys diabetes math Nid yw’n gallu ymdopi â bywyd pob dydd yn annibynnol.  

I fam Lillie, Emma, mae gofal maeth seibiant byr wedi bod yn “achubiaeth lwyr” iddi hi fel mam i dri, ac i’r teulu cyfan. “Roedd fel cael teulu estynedig i helpu, fel ‘Taid a Nain’ – rhywbeth nad oes gennym ni gerllaw,” dywedodd Emma.

“Mae ceisio diwallu anghenion Lillie yn straen, ac roedd yna adegau pan oeddwn wedi gorflino. Doedd gen’ i ddim bywyd fy hun, i ddweud y gwir. Roedd yn anodd ar adegau, ac er bod gennym rwydwaith da o ffrindiau cefnogol, roedd cael unrhyw gymorth ymarferol yn anodd oherwydd anghenion Lillie.”

gwybod ei bod yn ddiogel ac yn hapus yn ei ‘hail gartref’

Lillie going for a short weekend break with her foster carers

“Pan oedd Lillie’n mynd am seibiant byr gyda’i gofalwyr maeth hyfryd, neu ‘sleepovers’ fel roedd hi’n hoffi eu galw nhw, roedd yn rhoi’r cyfle i mi gael ychydig o amser i fi fy hun. Byddwn yn cael bath braf, mynd am baned neu bryd o fwyd gyda ffrind, gwylio rhaglen deledu a mynd i’r gwely’n gwybod y byddwn yn cael cysgu drwy’r nos!

“Pethau syml – pethau pob dydd, i ddweud y gwir – pethau’r ydym yn eu cymryd yn ganiataol.  

“Roedd mor braf gwybod ei bod yn ddiogel ac yn hapus yn ei ‘hail gartref’. Roedd yn golygu y gallwn ymlacio ac anghofio am bopeth am ychydig – rhywbeth prin iawn i mi.” 

dysgu sgiliau bywyd newydd

“O edrych yn ôl, roedd y seibiannau penwythnos hynny’n hanfodol i ni i gyd fel teulu, yn cynnwys Lillie.

“Roedd yn gyfle iddi gael rhywfaint o annibyniaeth a dysgu sgiliau bywyd newydd fel coginio a gwneud ei hun yn barod i fynd i’r gwely.”

“fe gefais i lawer o hwyl yno” – Lillie

Mae Lillie’n rhannu rhai o’r adegau arbennig y mae’n eu cofio am ei hamser gyda’r gofalwyr maeth: 

“Fe gefais i lawer o hwyl yno. Roedd gen’ i ystafell braf a fy nheganau i fy hun. Ro’n i’n cael helpu efo’r coginio a gosod y bwrdd. Mi wnes i gacennau. Bydden nhw’n mynd â fi i’r sw ac am dro braf i fwydo’r hwyaid. Rwy’n caru anifeiliaid! Bydden nhw’n mynd â fi am ginio dydd Sul, ac fe fyddwn i’n cael cacen siocled i bwdin – fy ffefryn!”   

Lillie enjoying her favourite pudding, chocolate cake
a allwch chi gefnogi teulu lleol y mae angen cymorth arnynt trwy ddod yn ofalwr maeth seibiant byr i blentyn anabl fel Lillie?

Os ydych chi’n byw yng Nghonwy, cysylltwch â Maethu Cymru Conwy a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar i’ch helpu i benderfynu a yw maethu yn iawn i chi, heb orfod ymrwymo i ddim byd.

Os ydych chi’n byw mewn rhan arall o Gymru, ewch i wefan Maethu Cymru i gael gwybodaeth am dîm maethu eich awdurdod lleol.

erthyglau cysylltiedig:

Beth yw ‘gofal seibiant’ a pham mae ei angen? | Maethu Cymru

Seibiannau byr – stori Sandra | Maethu Cymru

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch